Pa dafod, neu pa ddawn
A fedd angylaidd lu,
All draethu byth yn llawn
Am ras ein Ceidwad cu?
Ei waed a rodd, o'i gariad gwiw,
I gānu'r lleiddiaid dua'u lliw.
Mae cariad yn ei wedd
At wael golledig fyd;
Cyfiawnder pur a hedd
Sy'n ymgusanu 'nghyd;
Trugaredd a gwirionedd pur
A ymgyfarfu yn ei gur.
Benjamin Francis 1734-99
[Mesur: 666688] gwelir: Daeth Llywydd nef a llawr I enw'r Iesu mawr Mae cariad yn ei wedd |
What tongue, or what talent
That the angelic host possess,
Can ever expound fully
About the grace of our dear Saviour?
His blood he gave, from his worthy love,
To bleach the murderers of blackest colour.
There is love in his countenance
Towards the poor lost world;
Pure righteousness and peace
Are kissing each other;
Mercy and pure truth
Meet each other in his wound.
tr. 2017 Richard B Gillion
|
|